top of page

Sut i wneud tedi: Gwnewch ffrind newydd o dameidiau o ddefnydd yn gynaliadwy

  • Eve Gil
  • 4 days ago
  • 1 min read

DEUNYDDIAU

  • Defnydd (ail-law)

  • Edau

  • Nodwyddau

  • Pinnau

  • Siswrn

  • Stwffin (unrhyw fath)

  • Y patrwm papur hwn

  • Botymau (dewisol)

  • Rhuban (dewisol)

NODER: Byddwch yn ofalus wrth drin eitemau â min!



  1. Tynnwch lun y patrwm tedi hwn ar ddalen o bapur A4.

  2. Torrwch y patrwm allan.


  3. Dewiswch ddefnydd, rhowch y patrwm papur ar y defnydd a phiniwch y ddau at ei gilydd. Torrwch ddau ddarn siâp y corff, dau ddarn wyneb a phedwar darn clust.

  4. Piniwch y corff at ei gilydd, piniwch ddau bâr o glustiau at ei gilydd, pwythwch o gwmpas y clustiau a’r corf gan ddefnyddio pwyth chwip neu blanced.

  5. Stwffiwch y clustiau a’r corff.

  6. Piniwch yr wyneb at ei gilydd ac yna piniwch y clustiau’n sownd wrth yr wyneb, pwythwch y clustiau’n sownd wrth yr wyneb gan ddefnyddio pwyth syth neu ôl-bwyth.

  7. Pwythwch o gwmpas hanner yr wyneb, stwffiwch, yna pwythwch o gwmpas y gweddill, i’w gau.

  8. Pwythwch yr wyneb yn sownd wrth y corff gyda phwyth syth neu ôl-bwyth.


CAM BONWS:

Addurnwch yr wyneb â botymau / secwins / gleiniau / edafedd i greu llygaid a cheg. Ychwanegwch ruban.



Gan Eve Gil, Artist a Dylunydd. Mae Eve yn arwain gweithdau uwchgylchu creadigol ar ran Recreative Maindee.


Wedi mwynhau'r erthygl hon? Cefnogwch ein hawduron yma!


Comments


bottom of page