top of page

5 Peth Ardderchog sy’n Digwydd ym Maendy

  • Ifan Jones
  • Apr 23
  • 2 min read

Mae Maendy’n ardal ryfeddol o unigryw ac amrywiol yng Nghasnewydd, gyda chymuned weithgar iawn sy’n gwneud ei gorau i ddatgloi potensial llawn yr ardal. Isod, mae pum prosiect a menter sy’n helpu Maendy i ffynnu.


1. Mae Maendy Llawn Lliw yn fenter celf stryd ar hyd Heol Cas-gwent, sy’n cynnwys gwaith celf anhygoel 50 o artistiaid a sawl gwirfoddolwr. Gallwch weld llawer o’r murluniau mawr uwchlaw siopau ar y stryd. Gellir cael map sy’n dangos lleoliad llawn yr holl waith celf ar wefan themaindee.org



2. Cafodd Llyfrgell Maindee Library ei achub rhag cael ei chau gan breswylwyr lleol yn 2014. Ffurfiwyd Maindee Unlimited was a’r grŵp hwn sydd bellach yn cynnal y llyfrgell fel hyb cymunedol. Yn ogystal â llyfrau llyfrgell, gallwch gael mynediad i raglen lawn o wasanaethau a digwyddiadau yma. Mae Maindee Unlimited yn gofalu hefyd am y Triongl ar draws y ffordd; adeilad melyn llachar sy’n cynnwys lleoliad cymunedol. Mae llawer o gynlluniau ar y gweill ar gyfer y Triongl a fyddai o fudd i’r gymuned, gan gynnwys ardal chwarae i blant sydd wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd!




3. Mae Big Bocs Bwyd and The Maindee Pantry ill dau’n brosiectau sy’n helpu pobl leol ac sy’n mynd i’r afael â gwastraff bwyd. Mae Maindee Pantry ar agor yn Llyfrgell Maindee Library dridiau yr wythnos. Mae Big Bocs Bwyd yn siop talu-yn-ôl-eich-modd a leolir yn Ysgol Gynradd Maendy. Gyda’i gilydd maen nhw’n arbed dros 2 dunnell o fwyd y mis.


4. Mae Greening Maindee yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i feithrin mwy o lecynnau gwyrddach ym Maendy, a thrawsnewid ardaloedd a esgeuluswyd o fod yn fannau llwyd, diflas, i fod yn barciau poced a rhandiroedd cymunedol. Cofiwch wirio Saffari Gwyrdd Maendy, sy’n archwilio llecynnau glas cymunedol Maendy, a lawrlwythwch ap Seek gan iNaturalist i allu adnabod y planhigion amrywiol y dewch ar eu traws ar eich taith.


5. Allwch chi ddim â sôn am bethau da ym Maendy heb grybwyll Gŵyl Festival. Dyma ddathliad blynyddol sy’n dwyn ynghyd gerddoriaeth, perfformio, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol i hybu amrywiaeth y bobl sy’n byw ac yn gweithio ym Maendy. Fel arfer, cynhelir y digwyddiad ym mis Gorffennaf.



I gael mwy o wybodaeth am y sefydliadau a’r digwyddiadau a restrir uchod, yn ogystal â datblygiadau cyffrous eraill yn y gymuned, ewch i wefan maindee.org


Mwynhaodd yr erthygl hon? Cefnogwch ein hawduron yma!

Comments


bottom of page