top of page

Mohila Casnewydd: Cadw traddodiadau bwyd yn fyw

  • Anjuman Khanom
  • 6 days ago
  • 3 min read

Mae bwyd yn un o’r ffyrdd mwyaf diamser y gall diwylliant oroesi mudo, gan gludo cof, iaith a thraddodiad o un genhedlaeth i’r nesaf. I lawer o fenywod o dras Bangladeshi yng Nghasnewydd, nid yn unig mae coginio’n arfer dyddiol, ond mae’n gyswllt â ‘gartref’. Yr ymrwymiad hwn i gadw traddodiadau’n fyw wnaeth ysbrydoli creu grŵp menywod Mohila, gan roi lle i’r gymuned rannu, dathlu a chynnal diwylliant Bangladeshi gyda’i gilydd.


Mae rhai menywod o grŵp Mohila Casnewydd wedi cael cyfle i gyhoeddi’u ryseitiau, hyd yn oed cyn i’r grŵp gael ei sefydlu’n ffurfiol, drwy gyfrwng grŵp menywod KidCare4U. Cafodd y llyfr, ‘A Taste of Home: Bangladeshi Recipes From Welsh Kitchens’, ei gynhyrchu gyda chefnogaeth Sefydliad Dreigiau Bengal. Mae’r gyfrol yn fwy na chasgliad o seigiau, oherwydd mae’n deall sut y gall diwylliant deithio, addasu a goroesi, gan sicrhau fod yr arfer o rannu ryseitiau rhwng pobl a chenedlaethau’n parhau, hyd yn oed ymhell o Fangladesh.

Lansiwyd Grŵp Menywod Mohila ym mis Mehefin 2025 gan y sylfaenydd Anwara Begum a dwy o’u ffrindiau, Tahirun Islam a Fahima Islam. Mae Anwara yn fenyw o dras Bangladeshi a anwyd yn Llundain, ond sydd wedi byw yng Nghasnewydd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.


“Am flynyddoedd, fe wnes i freuddwydio am ddechrau rhywbeth sy’n cynrychioli diwylliant a thraddodiadau Bangladesh. Dwi wastad wedi bod eisiau cadw ein treftadaeth yn fyw yn fy mywyd, ac ysbrydoli’r cenedlaethau nesaf, i ddangos harddwch Bangladesh i’r byd.”


Ers ei lansio, mae Grŵp Menywod Mohila wedi trefnu digwyddiadau cymunedol llwyddiannus gan gynnwys Pitha Mela, sy’n ddathliad o’r gacen reis draddodiadol putha, a Bangla Mela (Gŵyl Bangla) sydd hefyd yn cynnwys seigiau a wnaed yn lleol. Yn fwyaf pwysig, mae’r digwyddiadau hyn yn creu lleoedd ar gyfer cyfnewid a chysylltu diwylliannol.



Chana Masala (Hawdd a Chlasurol)


Dyma rysáit ar gyfer Chana Masala a geir yn A Taste of Home: Bangladeshi Recipes From Welsh Kitchens.


Cynhwysion

  • 1 cwpan o chana sych (neu 2 gwpan o ffacbys wedi’u coginio / o dun)

  • 2 lwy ford o olew

  • 1 winwnsyn cymedrol, wedi’i dorri’n fân

  • 2 domato, wedi’u stwnsio’n dda (neu un cwpan o fwtrin tomato, o dun)

  • 1 llwy de o bast sinsir-garlleg

  • 1 llwy de o hadau cwmin

  • 1 llwy de o bowdr coriander

  • ½ llwy de o dyrmerig

  • 1 llwy de o bowdr tsili coch (yn ôl eich blas)

  • 1–1½ llwy de o chana masala neu garam masala

  • Halen yn ôl eich blas

  • 1–1½ cwpan o ddŵr

  • Dail coriander ffres

  • Dewisol: 1 llwy de o amchur (powdr mango sych) neu sudd lemwn


Cyfarwyddiadau

1. Coginiwch y chana

  • Sociwch y chana sych dros nos, yna’u coginio dan bwysau gyda halen nes eu bod yn feddal (gallwch hepgor hyn os ydyn nhw’n dod o dun – ond rhaid eu rinsio’n dda)

2. Gwnewch sail y saws

  • Cynheswch olew mewn padell, ychwanegwch yr hadau cwmin a gadael iddyn nhw ffrwtian

  • Ychwanegwch y winwns a’u ffrio nes eu bod yn euraidd

3. Ychwanegwch flas

  • Trowch y past sinsir-garlleg i’r gymysgedd, coginiwch am 30 eiliad

  • Ychwanegwch y mwtrin tomato a’i goginio nes i’r olew wahanu

4. Codwch y gwres

  • Ychwanegwch y tyrmerig, powdr coriander, powdr tsili, chana masala, a halen

  • Cymysgwch yn dda a choginio am 1–2 munud

5. Ychwanegwch y chana

  • Ychwanegwch y ffacbys wedi’u coginio a dŵr

  • Rhowch i ffrwtian am 10–15 munud nes bod y saws yn drwchus a blasus

  • Addurnwch â dail coriander


Mwynhaodd yr erthygl hon? Cefnogwch ein hawduron yma!

Comments


bottom of page