top of page
Cylchgrawn cymunedol fformat bach (zine!) yw Bom Hadau a luniwyd yn gariadus gan bobl Casnewydd.

Bom Hadau yw'r gair Cymraeg am 'seed bomb'. Peli o bridd a hadau yw bomiau hadau a ddefnyddir i helpu i drawsnewid mannau wrth i blanhigion a blodau ddod i'r amlwg.
Mae gan straeon bŵer tebyg. Plannwch stori yn y lle iawn ar yr amser iawn a gall newid pethau. Yn rhy aml, straeon negyddol sy'n lledaenu - y rhai sy'n creu ofn, diffyg ymddiriedaeth a dicter.
Bom Hadau yw'r gwrthwenwyn.
Ar draws Casnewydd mae pobl yn trawsnewid tirweddau a chymunedau er gwell, ym mhob math o ffyrdd creadigol. Rydym am rannu'r straeon hyn i rymuso, hysbysu ac ysbrydoli.
bottom of page

